#                                                                                      

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil: Cymraeg gorfodol ar lefel TGAU

Rhif y ddeiseb: P-05-760

Teitl y ddeiseb: Atal TGAU Cymraeg Gorfodol

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i newid ei pholisi a chaniatáu i blant roi’r gorau i Gymraeg lefel TGAU (Cyfnod Allweddol 4).  Rhowch ddewis i blant drwy beidio â gwneud yr Iaith Gymraeg yn orfodol.

Cefndir

Mae’n bolisi gan Lywodraeth Cymru y dylai pob disgybl 3-16 oed astudio Cymraeg, naill ai fel iaith gyntaf neu fel ail iaith. Mae’r papur hwn yn defnyddio gwybodaeth sydd ar gael yng nghyhoeddiad y Gwasanaeth Ymchwil, Addysg cyfrwng Cymraeg a’r Gymraeg fel pwnc (Awst 2016).

Yn sgil cyflwyno Deddf Diwygio Addysg 1988, cyflwynwyd y Gymraeg yn raddol fel pwnc gorfodol ar gyfer disgyblion 5-14 oed (Cyfnodau Allweddol 1, 2 a 3) o 1990 ymlaen. O fis Medi 1999, gwnaed Cymraeg yn orfodol i ddisgyblion 14-16 oed hefyd (Cyfnod Allweddol 4). Mae’r Cyfnod Sylfaen, a gyflwynwyd yn 2001, yn ei gwneud yn ofynnol i Gymraeg neu Ddatblygu’r Gymraeg gael eu haddysgu i blant 3-7 oed. 

Y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru

Mae’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru yn cynnwys pynciau craidd a sylfaen. Maent wedi’u rhestru yn Neddf Addysg 2002.

Y pynciau craidd ar gyfer Cyfnodau Allweddol 1-3 yw Mathemateg; Gwyddoniaeth; Saesneg; a Chymraeg iaith gyntaf (mewn perthynas ag ysgolion Cymraeg, fel y nodir yn Neddf Addysg 2002). Y pynciau sylfaen yw Technoleg; Addysg Gorfforol; Hanes; Daearyddiaeth; Celf; Cerddoriaeth; Cymraeg ail iaith (os nad yw’r ysgol yn ysgol Gymraeg, fel y nodir yn Neddf Addysg 2002); ac ar gyfer Cyfnod Allweddol 3, Iaith dramor fodern.   

Y pynciau craidd yng Nghyfnod Allweddol 4 yw Cymraeg iaith gyntaf; Mathemateg; Saesneg a Gwyddoniaeth. Y pynciau sylfaen yw Addysg gorfforol; a Chymraeg ail iaith.  

Nid oes unrhyw oriau penodedig ar gyfer pynciau penodol. Ysgolion yn lleol sy’n penderfynu faint o amser a ddyrennir i astudio pob pwnc, gan gynnwys Cymraeg.

TGAU Cymraeg

Un o argymhellion adroddiad Llywodraeth Cymru Un Iaith i Bawb: Adolygiad o Gymraeg Ail Iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 (2013) oedd bod Cymraeg ail iaith yn parhau i fod yn bwnc statudol yn y Cwricwlwm Cenedlaethol, ac yn parhau i fod yn bwnc gorfodol i bob disgybl yng Nghymru tan ddiwedd Cyfnod Allweddol 4. Argymhellodd  Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru – Dyfodol Llwyddiannus (PDF 1.53MB) gan yr Athro Donaldson y dylai Cymraeg barhau i fod yn orfodol ym mhob ysgol hyd at 16 oed. Cadarnhaodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd, Huw Lewis, fod Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad mewn datganiad ysgrifenedig (ar 15 Hydref 2015).

Nodwyd yn Un Iaith i Bawb, er bod y Gymraeg yn bwnc gorfodol yn y cwricwlwm cenedlaethol, nid yw’n orfodol i gofrestru disgyblion i sefyll arholiad TGAU nac unrhyw gymhwyster arall. Ysgolion yn lleol sy’n penderfynu ar y cymhwyster priodol i’r dysgwyr eu dilyn. Yng Nghyfnod Allweddol 4 ar hyn o bryd, mae ysgolion yn cofrestru disgyblion naill ai ar gyfer TGAU Cymraeg iaith gyntaf, TGAU Cymraeg ail iaith (cwrs llawn), TGAU Cymraeg ail iaith (cwrs byr), neu ddim yn eu cofrestru ar gyfer unrhyw gymhwyster.

TGAU Cymraeg ail iaith diwygiedig

Yn dilyn argymhellion Un Iaith i Bawb, mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd â CBAC, Cymwysterau Cymru a rhanddeiliaid eraill, wedi datblygu model diwygiedig ar gyfer TGAU Cymraeg ail iaith (cwrs llawn) a fydd yn cael ei gyflwyno ym mis Medi 2017. Bydd y cwrs byr TGAU Cymraeg ail iaith yn cael ei dynnu’n ôl ar ôl i’r cwrs llawn diwygiedig gael ei gyflwyno, gyda’r cyfle asesu olaf ar gyfer y cwrs byr yn haf 2018.

Dadleuon o blaid Cymraeg fel pwnc ar lefel TGAU

Parhad

Yn ei llythyr at y Pwyllgor Deisebau, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn dadlau bod angen parhad a dilyniant wrth ddysgu. Mae’n dweud nad oes ganddi gynlluniau i newid polisi sefydledig Llywodraeth Cymru sef bod Cymraeg yn bwnc gorfodol i rai 5-14 oed (Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3) ac 14-16 oed (Cyfnod Allweddol 4). Mae dilyniant ieithyddol yn elfen allweddol o’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg:

Mae datblygu sgiliau iaith yn broses sy’n digwydd dros gyfnod o amser. Mae’n bwysig i blant a phobl ifanc adeiladu ar eu galluoedd wrth iddynt aeddfedu. Mae sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer dilyniant ieithyddol addas yn un o gonglfeini’r Strategaeth.

Rhan o’r diwylliant

Mae’r Gymraeg yn rhan o ddiwylliant Cymru. Yn natganiad polisi 2014 ynghylch ei strategaeth y Gymraeg,Iaith fyw: Iaith byw – bwrw mlaen, dywedodd Llywodraeth Cymru:

Mae’r Gymraeg yn rhan werthfawr o’n hunaniaeth a’n diwylliant, ac mae’n bwysig bod holl ddysgwyr Cymru – p’un a ydynt yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg neu ysgol cyfrwng Saesneg – yn cael cefnogaeth i siarad y Gymraeg yn hyderus.

Galw gan y gweithlu am sgiliau Cymraeg

Mae’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg hefyd yn cyfeirio at y twf mewn galw am sgiliau Cymraeg gan y gweithlu a’r angen i sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnynt. Un o chwe maes strategol strategaeth y Gymraeg, Iaith fyw: iaith byw, yw’r Gweithlu, a nod Llywodraeth Cymru yw cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith. Yn natganiad polisi 2014, mae Llywodraeth Cymru yn datgan y bydd gweithredu Safonau’r Gymraeg:

yn gatalydd pwysig ar gyfer gwella sut mae sefydliadau yn ystyried datblygu sgiliau Cymraeg eu gweithlu.

Manteision dwyieithrwydd

Mae llawer o sylw wedi’i roi i fanteision posibl dwyieithrwydd.

Mae’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn cyfeirio at:

fanteision uniongyrchol gallu defnyddio ieithoedd penodol (er enghraifft cyfathrebu ag aelodau’r teulu a rhwydweithiau cymdeithasol ehangach, neu wella cyfleoedd gyrfa)

a’r

manteision mwy cyffredinol o hyrwyddo sgiliau gwybyddol, cynyddu chwimder meddyliol ac ehangu’r amrywiaeth o brofiadau diwylliannol a gaiff siaradwyr.

Mae’r Strategaeth hefyd yn cyfeirio at waith ymchwil yng Nghanada, sy’n datgelu bod dwyieithrwydd yn gwella gallu plant ac oedolion hŷn i ganolbwyntio ynghyd â’u rheolaeth wybyddol (PDF 128KB) ac yn dangos effaith dwyieithrwydd ar ohirio symptomau dementia rhag dechrau. Mae hefyd yn cyfeirio at waith ymchwil a gyhoeddwyd gan Brifysgol Caeredin yn 2009, a oedd yn dangos bod siaradwyr dwy iaith yn ei chael hi’n haws canolbwyntio ar amrywiaeth o dasgau, gan anwybyddu pethau a allai dorri ar eu traws. 

Rôl addysg o ran cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg

Mae adroddiadau yn aml yn cydnabod rôl y sector addysg o ran cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Yn   Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg: y camau nesaf, dywedodd Llywodraeth Cymru:

Nid oes unrhyw amheuaeth bod rôl hanfodol bwysig gan y system addysg i sicrhau dyfodol yr iaith. Darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg sydd wedi sicrhau’r cynnydd mwyaf yn nifer y bobl ifanc sy’n rhugl eu sgiliau iaith Gymraeg.

Mae hefyd yn bwysig yng nghyd-destun targed Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a gafodd ei lansio ym mis Awst 2016. Cyhoeddodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu adroddiad ym mis Mai 2017 ar yr Ymchwiliad i Strategaeth y Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru (627KB). Mae’r adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd addysg o ran cyflawni’r nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg ac yn croesawu’r newidiadau i TGAU Cymraeg ail iaith a gyflwynir o fis Medi 2017.  

Cyrhaeddiad

Er ei bod hi’n ymddangos bod y ddeiseb yn cyfeirio at TGAU Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, gallai fod yn ddefnyddiol nodi bod data yn dangos nad yw astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn effeithio ar hyfedredd yn y Saesneg. Yn ôl y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg:

Nid yw’r broses o ddatblygu sgiliau yn y Gymraeg ac yn y Saesneg yn annibynnol ar ei gilydd. Mae deilliannau dysgwyr mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg yn debyg mewn Cymraeg a Saesneg iaith gyntaf, sy’n awgrymu bod y sector yn llwyddo i feithrin dwyieithrwydd naturiol. Dengys data asesu ar ddiwedd Blwyddyn 6 fod 98.5% o ddysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cyrraedd lefel yn y Saesneg yn 11 oed sydd yr un fath, neu’n dod o fewn un lefel â’u perfformiad yn y Gymraeg.

Dadleuon yn erbyn Cymraeg fel pwnc ar lefel TGAU

Cyfyngu ar ddewis

Gall TGAU Cymraeg gorfodol gyfyngu dysgwyr rhag dilyn pwnc arall yng Nghyfnod Allweddol 4, gan gyfyngu ar eu hopsiynau.

Cyrhaeddiad

Yn ôl cais Rhyddid Gwybodaeth, fel yr adroddwyd gan y BBC yn 2014, awgrymwyd bod plant ysgol gynradd o gartrefi sy’n siarad Saesneg, ac sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn unig, yn llai tebygol o berfformio’n dda mewn mathemateg, gwyddoniaeth a Saesneg na’u cyfoedion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Cymharwyd cyrhaeddiad 25,000 o ddisgyblion 11 oed.

Barn y cyhoedd

Yn ôl arolwg barn ar gyfer ITV News yn 2015, yn seiliedig ar sampl o 1,151 o bobl, roedd bron i dwy ran o dair o bobl yn gwrthwynebu’r sefyllfa bresennol lle mae Cymraeg yn orfodol hyd at 16 oed.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.